50 CAMRAU AT GRIST. yroll i fyny i ewyllys Duw, yn gofyn ymdrech ; eithr rhaid i'r enaid ymostwng i Dduw cyn y gellir ei adnewyddu mewn sancteiddrwydd. Nid yw llywodraeth Duw, fel y mynasai Satan iddi ymddangos, yn sylfaenedig ar ymostyngiad dall, yn reolaeth ddireswm. Apelia at y deall ar gydwybod. “ Deuwch yr awr hon ac ymresymwn,”! ydyw gwah- oddiad y Creawdwr i'r bodau & wnaeth. Nid yw Duw yn gorfodi ewyllys ei greaduriaid. Nis gall dderbyn gwarogaeth nad yw yn cael ei rhoddi yn ewyllysgar ac yn ddeallgar. Byddai i ymostyngiad gorfodfol yn unig atal pob dadblygiad gwirioneddol o feddwl neu gymeriad ; gwnai ddyn yn beiriant hunan- symudol yn unig. Nid hyn yw amcan y Creawdwr. Mae yn ewyllysio fod i ddyn, coron-waith ei allu creadigol, gyraedd y dadblygiad uwchaf yn bosibl. Gesyd ger ein bron uchder y fendith at ba un yr ewyllysia ein dwyn, drwy ei ras. Gwahodda ni i roddi ein hunain iddo Ef, fel y gallo weithredu ei ewyllys ynom. Mae yn gorphwys arnom ni i ddewis pa un a ryddheir ni oddi wrth gaethiwed pechod, i gyfranogi o ryddid gogoneddus plant Duw. Wrth roddi ein hunain i Dduw, rhaid i ni o ang- enrheidrwydd roddi i fyny bob peth a’n gwahana oddi wrtho Ef. Yn gyson a hyn y dywed y Gwaredwr, 1 Esa. i. 18, YMGYSEGRIAD. 51 « Pob un 0 honoch chwithau nid ymwrthodo & chym- aint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgyblimi.”! Pa beth bynag a ddena y galon oddi wrth Dduw rhaid ei roddi i fyny. Mammon ydyw eilun llawer. Cariad at arian, dymuniad am olud, ydyw y gadwen aur sydd yn eu eysylltu wrth Satan. Enw ac anrhydedd bydol a addolir gan ddosbarth arall. Bywyd o esmwythyd hunanol a rhyddid oddi wrth gyfrifoldeb sydd eilun i ereill. Ond rhaid tori y rhwymau caethiwus hyn. Nis gallwn fod mewn rhan yn eiddo yr Arglwydd a'r haner arall yn eiddo y byd. Nid ydym blant Duw os nad ydym felly yn hollol. Ceir rhai a broffesant was- anaethu Duw, tra maent yn ymddiried yn eu hymdr- echion eu hunain i ufuddhau i'w gyfraith, i ffurfio cym- eriad iawn a sicrhau iachawdwriaeth. Ni chyffroir eu calonau gan unrhyw deimlad dwin o gariad Crist, eithr ceisiant gyflawni dyledswyddau y bywyd crist- jonogol fel yr hyn a ofyna Duw ganddynt mewn trefn i enill nefoedd. Nid yw y cyfryw grefydd yn werth dim. Pan fydd Crist yn preswylio yn y galon, llenwir yr enaid y fath a’i gariad, gyda llawenydd cymundeb ag Ef, fel y bydd iddo lynu wrtho; ac yn y myfyrdod o hono Ef, bydd i hunan gael ei anghofio. Bydd cariad at Grist yn ffynhonell gweithrediad. Ni ofyna y rhai hyny a deimlant gariad cymhelliadol 1 Lue xiv. 33,