20 CAMRAU AT GRIST. jant fry, y clywid llais Duw mewn cenadwri o gysur a gobaith. Fel hyn y gwnaed yn hysbys i Jacob yr hyn a gyfarfyddai ag angen a hiraeth ei enaid,—y Gwaredwr. Gyda llawenydd a diolch y gwelodd ffordd yn cael ei datguddio trwy ba un y gallai efe, yn bechadur, gael ei adfer i gymundeb 4 Duw. Yr oedd ysgol arwyddluniol ei frenddwyd yn cynrychioli yr Iesu, unig gyfrwng cymundeb rhwng Duw a dyn. At yr un darlun y cyfeiria Crist yn ei ymddiddan 4 Nathanael, pan y dywedodd, ““ Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.”' Yny gwrthgiliad, ymddy- eithriodd dyn oddiwrth Dduw; torwyd vy ddaear oddiwrth y nefoedd. Nis gallai fod dim cymundeb dros y gagendor a orweddai rhyngddynt. Ond trwy Grist mae y ddaear eto wedi ei dolenu wrth y nef. Gyd a'l- haeddiant ei hun pontiodd Crist y gagendor a wnaed gan bechod, fel y gallo yr angylion gwasan- aethgar ddal cymundeb 4 dyn. Mae Crist yn cysylltu y dyn syrthiedig, yn ei wendid ai anally, 4 fiynhonell y nerth anfeidrol. Eithr ofer yw breuddwydion dynion ynghylch cyn- ydd, ofer pob ymdrechion er dyrchafu dynoliaeth, os esgeulusant unig ffynhonell gobaith a chymorth i'r hil 1 Joan i. 61, ANGEN Y PECHADUR AM GRIST. 21 syrthiedig. ¢ Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith,”? oddiwrth Dduw y maent. Nid oes gwi1 ragoriaeth cymeriad ar wahan iddo Ef. Ar unig fiordd at Dduw ydyw Crist. Efe a ddywed, « Myfi yw y ffordd, a'r gwirionedd, ar Bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.” * Mae calon Duw yn hiraethu ar ol ei blant daearol gyda chariad cryfach nac angau. Wrth roddi i fyny ei Fab, Efe a dywalltodd allan i ni yr holl nefoedd mewn un rhodd. Mae bywyd a marwolaeth ac eiriolaeth y Gwaredwr, gweinidogaeth angylion, yomryson yr Ysbryd, y Tad yn gweithio uchod a thrwy bob peth, dyddordeb diddarfod y bodau nefol, —7Jr oll wedi ymrestru yn mhlaid iachawdwriaeth dyn. O, gadewch i ni fyfyrio ar yr aberth rhyfeddol a wnaed drosom ni! Gadewch i ni geisio gwerthfawrogi y llafur a'r egni a waria y Nefoedd er adfer y colledig, a’ dwyn yn ol i dy eu Tad. Ni allesid byth ddwyn i weithrediad gymhellion cryfach, a goruchwylwyr mwy nerthol,—y gwobrwyon tra-ragorol am wneyd y da, y mwynhad o'r nefoedd, y gymdeithas a'r angylion, cymundeb a chariad Duw a’i Fab, dyrchafiad ac ehangiad ein holl alluoedd am oesoedd tragwyddol,— onid yw y rhai hyn yn ysbardynau ac anogaethau i'n 1 Tago i. 17. 2 Joan xiv. 6.