24 CAMRAU AT GRIST. weh. Mae lluoedd yn gofidio am iddynt bechu, ac hyd y nod yn gwneyd adnewyddiad allanol, am eu bod yn ofni i'w cyflawniadau drygionus ddwyn diodd- efaint arnynt eu hunain. Eithr nid hyn yw edifeirwch yu ystyr y Beibl. Galarant o herwydd y dioddef, yn hytrach na'r pechod. Dyma oedd tristweh Esau pan welodd fod yr enedigaeth-fraint wedi ei cholli iddo am byth. Darfu i Balaam, ar ol ei ddychrynu gan yr angel a safai ar ei lwybr gyda chleddyf noeth, gydnabod ei euogrwydd rhag ofn iddo golli ei fywyd; eithr nid oedd yno edifeirwch pur am bechod, dim argyhoeddiad amecan, dim ffieidd-dod o ddrwg. Judas Iscariot, ar ol iddo fradychu ei Arglwydd, a ddywedodd, “ Pechais, gan fradychu gwaed gwir- ion.”! Gwthiwyd allan o'i enaid euog y cyffesiad gan ymdeimlad ofnadwy o ddamnedigaeth a golwg ddychr- ynllyd ar farnedigaeth. TLlanwyd ef 4 dychryn gan y canlyniadau oedd i ddilyn iddo ef, ond nid oedd yno ddim gofid calon-rwygol dwfn yn ei enaid am iddo fradychu Mab difrycheulyd Duw, a gwadu Sanct yr Israel. Pan oedd Pharaoh yn dioddef dan farnedig- aethau Duw, cydnabyddodd ei bechod, mewn trefn i osgoi cospedigaeth bellach, eithr dychwelodd at ei herfeiddiad o'r Nefoedd cyn gynted ag y cafodd y pladu eu hatal. Galarai y rhai hyn oll am ganlyniadau 1 Matt, xxvii. 4. EDIFEIRWCH. 25 pechod, eithr nid oeddynt yn gofidio am y pechod ei hun. Ond pan ildia y galon i ddylanwad Ysbryd Duw, caiff y gydwybod ei deffroi, a chenfydd y pechadur rhywfaint o ddyfnder a chysegredigrwydd cyfraith sanctaidd Duw, sail ei lywodraeth mewn nef a daear. Y “Goleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod ir byd,”* a oleua gelloedd dirgel yr enaid, a gwneyd yn amlwg bethau cuddiedig y tywyllweh. Cymer argyhoeddiad afael ar y meddwl a'rgalon. Maegan y pechadur ymsyniad o gyfiawnder y Jehofah, a theimla yr arswyd o ymddangos, yn ei euogrwydd a’i aflendid ei hunan, gerbron Chwiliwr y calonau. Mae yn gweled cariad Duw, prydferthwch sancteiddrwydd, a llawenydd purdeb; hiraetha am gael ei olchi, a chael ei adfer i gymundeb a'r Nef. Mae gweddi Dafydd ar ol ei gwymp yn egluro natur gwir dristwech am bechod. Yr oedd ei edif- eirwch yn gywir a dwin. Nid oedd yno un ymgais i guddio euogrwydd ag esgusawd; yr un dymuniad i osgoi y farnedigaeth fygythiol yn ysbrydoli ei weddi. Gwelodd Dafydd anfadrwydd ei drosedd; gwelodd halogrwydd ei enaid ; ffieiddiodd ei bechod. Nid am faddeuant yn unig y gweddiodd, ond am burdeb calon. Hiraethai am lawenydd sancteiddrwydd,— 1Joan i. 9.